top of page

ein gwaith

Nod Partneriaeth Dyffryn Peris yw cydweithio er mwyn grymuso cymunedau'r fro.  Dyma flas o'r hyn sydd ar y gweill ar y funud:

llun diolch.png

Prosiect Ymchwil Tai

Mae Partneriaeth Dyffryn Peris wedi bod yn cynnal prosiect ymchwil cymunedol, diolch i nawdd gan LPIP Cymru Wledig. 

Prif gwestiwn ymchwil y prosiect oedd 'Beth ydy'r gwir sefyllfa dai yn Nyffryn Peris, a beth alle ni, fel cymuned ei wneud am y peth?' Roedd wedi dod yn amlwg o arolygon blaenorol (Ardal Ni gan Cyngor Gwynedd a GwyrddNi) fod y maes tai yn un pwysig i drigolion lleol, ac roeddem eisiau dallt pam.  

Rhwng Ebrill a Mehefin 2026, bu gynnal arolwg drws i ddrws ac arlein, cafwyd grwpiau ffocws, cyfweliadau a digwyddiadau cymunedol.  

Bu dderbyn 274 o ymatebion, ac fe hoffai Partneriaeth Dyffryn Peris ddiolch i bawb roddod amser i'r arolwg, bod yn ymatebwyr, gwirfoddolwyr, tim staff dros dro, a thim craidd LPIP. 

Mae'r adroddiad bellach yn barod, a gellir ei ddarllen drwy ddilyn y lincs isod:

Cymraeg

Saesneg

Y gobaith ydy fod hwn yn darparu tystiolaeth i ysgogi gweithredu cymunedol am amser i ddod.  Oes oes unrhyw grwpiau neu unigolion eisiau mwy o wybodaeth am y data a gasglwyd, neu eisiau bod yn rhan o ymateb i'r hyn a godwyd, gyrrwch neges.  Gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth!

Cwm Cylchol

Yn ystod cynulliadau hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Peris, nodwyd awydd i weld mwy o weithgareddau economi gylchol yn lleol.  Ac ma gynnom ni syniad!

Drwy gyd-weithio a rhannu syniadau mae rhywbeth fel hyn yn datblygu ar ei orau.  Os da chi eisiau bod yn rhan o'r sgwrs, cysylltwch!

Llanberis stryd.jpg

Sgynno chi syniad?

Oes gynno chi syniad am brosiect neu weithgaredd hoffech chi ei weld yn eich cymuned?  Beth am gysylltu a gweld os oes modd i ni ddatblygu'r prosiect gyda'n gilydd?  

Image by Barn Images

Grwp Tai Bro'r Wyddfa

Mae materion tai wedi eu nodi fel blaenoriaeth leol, ac mae grwp tai Bro'r Wyddfa yn cwrdd i drafod syniadau a datblygiadau.  Diddordeb yn y maes?  Eisiau bod yn rhan o lywio prosiectau tai dan arweiniad y gymuned? Dowch i ymuno yn y sgwrs!

Green Light Bulb Icon
partneriaethdyffryn peris

Partneriaeth Dyffryn Peris

c/o Menter Fachwen, London House, Cwm y Glo, Caernarfon. LL55 4DT

post@partneriaethdyffrynperis.org

  • White Instagram Icon
  • White YouTube Icon
  • White Facebook Icon

Terms & Conditions

Privacy Policy

Accessibility Statement

bottom of page